Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2022
Amser:
10.45 -
12.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12889
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS (Yn bresennol yn lle Sioned Williams AS ar gyfer eitemau 1-7) Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Sioned Williams AS Vikki Howells AS (yn lle Buffy Williams AS) |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Hannah Wharf, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS, dirprwyodd Vikki Howells AS ar ei rhan.
1.3 Cafwyd
ymddiheuriadau hefyd gan Sioned Williams AS ar gyfer eitemau 1 i 6
ar yr agenda. Roedd Heledd Fychan AS yn dirprwyo ar ran yr eitemau
hynny.
2 Gweithredu diwygiadau addysg - sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch olrhain y ffigurau ar gydbwysedd y disgyblion ar Gynlluniau Datblygu Unigol, faint sy’n cael eu cynnal gan ysgolion a faint sy’n cael eu cynnal gan restr yr awdurdodau lleol, yn ogystal â nifer y disgyblion sydd ar yr hen gofrestr Anghenion Addysgol Arbennig ac sydd bellach yn cael eu cefnogi o dan y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfod cyfan ar 21 Medi
4.1 Derbyniwyd y
cynnig.
5 Absenoldeb disgyblion - trafod y materion o bwys
5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion o bwys. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf.
6 Plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal - trafod y cwmpas a’r dull gweithredu
6.1 Trafododd y
Pwyllgor y cwmpas a’r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad.
Cytunwyd y byddai papur manylach yn cael ei ystyried yn nhymor yr
hydref.
7
Blaenraglen waith
yr hydref - diweddariad llafar ar y dull o gynnal gwaith
craffu blynyddol
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Cymwysterau Cymru a CBAC i’r Pwyllgor ar gyfer sesiwn graffu ar y cyd ar haf 2022, dyddiad y cyfarfod i’w gadarnhau.
7.2 Bu'r Pwyllgor yn trafod a chytuno ar y dull o gynnal y sesiynau craffu blynyddol gyda Cymwysterau Cymru, Estyn a'r Comisiynydd Plant.
8 Gweithgareddau'r Pwyllgor - diweddariad ar lafar
8.1 Rhoddodd yr Aelodau ddiweddariadau llafar ar weithgareddau’r Pwyllgor yr oeddent wedi’u cyflawni yn ystod y tymor, gan gynnwys:
- Ymweliad â Gweithredu dros Blant Caerffili
- Ymweliad ag Ysgol Gynradd Monnow
- Ymweliad â Chanolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
- Ymweliad ag Ysgol Gynradd Rhosymedre
- Adborth am yr ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Diwylliant ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
- Diweddariad ar gyfarfodydd gweinidogol misol